Psalms 136

Diolch am ddaioni'r Arglwydd

1Diolchwch i'r Arglwydd!
Mae e mor dda aton ni!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n uwch na'r duwiau i gyd!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
3Rhowch ddiolch i Arglwydd yr Arglwyddi!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
4Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
5Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
6Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
7Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
8Yr haul i reoli'r dydd.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
9a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
10Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
11a dod ag Israel allan o'u canol nhw,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
12gyda nerth a chryfder rhyfeddol.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
13Fe wnaeth hollti'r Môr Coch,
136:13 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
14a gadael i Israel fynd trwy ei ganol,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
15Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch,
136:15 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
16ac arwain ei bobl drwy'r anialwch.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
17Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
18a lladd brenhinoedd enwog –
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
19Sihon, brenin yr Amoriaid,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
20ac Og, brenin Bashan.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
21Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
22yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu.
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
23Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
24a'n hachub ni o afael ein gelynion,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
25Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw,
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
26Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
Copyright information for CYM